Archif Gatrodol
(Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy
Chwilio am filwyr a wasanaethodd yn y Gatrawd
Ar hyn o bryd mae'r gronfa ddata yn cynnwys y cyfnodau 1786-1817, 1872-1887 ac 1914-1916. Mae'n cynnwys bron i 7000 o enwau.Mae'r wybodaeth ar gyfer 1786-1817 ac ar gyfer 1872-1887 wedi'i chymryd o'r ddwy Gofrestr Ymrestriad sy'n cwmpasu'r cyfnodau hyn. Mae'r Cofrestri yn cofnodi llawer o wybodaeth am y bobl hynny a ymrestrodd, gan gynnwys dyddiad a lleoliad ymrestru, ac oed, galwedigaeth a thaldra. Mae'r gofrestr gynnar hefyd yn rhoi man geni a disgrifiad corfforol manwl, tra bod yr un ddiweddarach yn rhoi cyfeiriad adeg ymrestru ac yn cofnodi (ar gyfer rhan o'r cyfnod) a yw'r recriwtiad newydd yn gallu darllen ac ysgrifennu.
Mae'r wybodaeth ar gyfer 1914-1916 wedi'i chymryd o Gofrestr Gatrodol ac nid yw'n cynnwys llawer o fanylion. Felly nid oes llawer o wybodaeth ar y gronfa ddata ar gyfer y cyfnod hwn – dim ond y cyfenw, llythrennau cyntaf, rheng a rhif Catrodol fel arfer.
Nodyn ar enwau lleoedd: i sicrhau bod y gronfa ddata mor ddefnyddiol â phosibl i ymchwilwyr, mae sillafiadau enwau lleoedd a gofnodwyd ar y Cofrestri wedi'u moderneiddio lle'n briodol a lle'n bosibl. Mewn rhai achosion, nid yw wedi bod yn bosibl adnabod y lle a gofnodwyd ar y Gofrestr, ac yn yr achosion hyn mae'r enw wedi'i drawsgrifio yn union fel yr oedd wedi'i ysgrifennu
Chwilio uwch: surname=Stanton;
Darganfuwyd eich chwiliad 5 cofnodStanton, E, Cpl, Rhif catrodol:5339 |
Cofnod gwasanaeth: Served in First World War |
Stanton, John, Rhif catrodol:5847 |
Dyddiad ardystiad: 1875-01-08 Man ardystiad: Abergavenny |
Oedran adeg ymrestriad: 21 Galwedigaeth: Labourer Cyfeiriad: Chain Row, Tudor Street, Abergavenny |
Uchder adeg ymrestriad: 5 feet 5 inches |
Nodiadau: Can read and write |
Stanton, Robert, Rhif catrodol:7186 |
Dyddiad ardystiad: 1879-02-18 Man ardystiad: Monmouth |
Oedran adeg ymrestriad: 19 years Galwedigaeth: Mason Cyfeiriad: 79 Tudor Street, Abergavenny |
Uchder adeg ymrestriad: 5 feet 6½ inches |
Stanton, Thomas, Rhif catrodol:8668 |
Dyddiad ardystiad: 1884-04-03 Man ardystiad: Newport |
Oedran adeg ymrestriad: 17 Galwedigaeth: Labourer |
Uchder adeg ymrestriad: 5 feet 7 inches |
Stanton, Robert, Rhif catrodol:7186/8777 |
Dyddiad ardystiad: 1885-02-19 Man ardystiad: Monmouth |
Cyfeiriad: 19 Watkins Terrace Pant Lane Abergavenny |
6954 cofnod sydd yn y databas ar hyn o bryd