ENGLISH
 

Archif Gatrodol
(Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy

Chwilio am filwyr a wasanaethodd yn y Gatrawd

Ar hyn o bryd mae'r gronfa ddata yn cynnwys y cyfnodau 1786-1817, 1872-1887 ac 1914-1916. Mae'n cynnwys bron i 7000 o enwau.

Mae'r wybodaeth ar gyfer 1786-1817 ac ar gyfer 1872-1887 wedi'i chymryd o'r ddwy Gofrestr Ymrestriad sy'n cwmpasu'r cyfnodau hyn. Mae'r Cofrestri yn cofnodi llawer o wybodaeth am y bobl hynny a ymrestrodd, gan gynnwys dyddiad a lleoliad ymrestru, ac oed, galwedigaeth a thaldra. Mae'r gofrestr gynnar hefyd yn rhoi man geni a disgrifiad corfforol manwl, tra bod yr un ddiweddarach yn rhoi cyfeiriad adeg ymrestru ac yn cofnodi (ar gyfer rhan o'r cyfnod) a yw'r recriwtiad newydd yn gallu darllen ac ysgrifennu.

Mae'r wybodaeth ar gyfer 1914-1916 wedi'i chymryd o Gofrestr Gatrodol ac nid yw'n cynnwys llawer o fanylion. Felly nid oes llawer o wybodaeth ar y gronfa ddata ar gyfer y cyfnod hwn – dim ond y cyfenw, llythrennau cyntaf, rheng a rhif Catrodol fel arfer.

Nodyn ar enwau lleoedd: i sicrhau bod y gronfa ddata mor ddefnyddiol â phosibl i ymchwilwyr, mae sillafiadau enwau lleoedd a gofnodwyd ar y Cofrestri wedi'u moderneiddio lle'n briodol a lle'n bosibl. Mewn rhai achosion, nid yw wedi bod yn bosibl adnabod y lle a gofnodwyd ar y Gofrestr, ac yn yr achosion hyn mae'r enw wedi'i drawsgrifio yn union fel yr oedd wedi'i ysgrifennu


Arfbais yr Amgueddfa



Ariennir y prosiect i gatalogio'r archifau a datblygu'r wefan archifol gan:

logo Llywodraeth Cymru