Archif Gatrodol
(Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy
![]() |
Aelodau'r Gatrawd trwy'r oesoedd Clicio'r delwedd am fersiwn fwy |
Cedwir cofnodion (Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy yn Amgueddfa'r Castell a'r Gatrawd yn Nhrefynwy. Ffurfiwyd y Gatrawd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond mae'r cofnodion yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1786 a 1991.
Milisia lleol oedd y Gatrawd yn wreiddiol ac mae bellach yn rhan o'r Fyddin Diriogaethol. Gydol ei hanes hir, milwyr wrth gefn oedd yn y Gatrawd hon - dynion â swyddi cyffredin a fyddai'n dod at ei gilydd yn achlysurol i hyfforddi ac a gawsai eu galw i wasanaethu os oedd eu hangen. Dyma uwch-gatrawd yn yr adfyddin.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hanes y Gatrawd ar wefan yr amgueddfa ac am y Gatrawd heddiw ar wefan y Fyddin Brydeinig.
Mae enw'r Gatrawd wedi newid dros y blynyddoedd:
![]() |
Darlun o'r Gatrawd yn Noc Penfro ym 1855 Clicio'r delwedd am fersiwn fwy |
• Milisia Sir Fynwy (1660-1793)
• Milisia Trefynwy ac Aberhonddu (1793-1804)
• Milisia Brenhinol Trefynwy ac Aberhonddu (1804-1820)
• Milisia Brenhinol Sir Fynwy (1820-1852)
• Milisia Brenhinol Sir Fynwy (Troedfilwyr Ysgafn) (1852-1877)
• (Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (1877-1896)
• (Milisia) Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy Frenhinol (1896 hyd heddiw)
Gan amlaf, dim ond newid enw'r gatrawd oedd hyn yn ei olygu. Fodd bynnag, cafwyd newid pwysig ym 1877 pan newidiwyd y gatrawd o droedfilwyr yn gatrawd o beirianwyr.
Cafodd y Gatrawd ei 'hymgorffori' (ei galw i wasanaethu) ar yr adegau canlynol:
![]() |
Ar bont rheilffordd Clicio'r delwedd am fersiwn fwy |
Rhyfeloedd â Ffrainc (1793-1815)
Rhyfel y Crimea (1854-1856)
Ail Ryfel y Boer (1899-1902)
Y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918)
Yr Ail Ryfel Byd (1939-1945).
Yn fwy diweddar, mae unedau o'r Gatrawd wedi gwasanaethu yn Bosnia [1997] ac Iraq (2003 a 2007), ond ni chedwir y cofnodion o'r cyfnodau hyn fel rhan o'r Archif.
![]() |
Rhai o'r cofnodion Clicio'r delwedd am fersiwn fwy |
Mae'r Archif Gatrodol yn cynnwys cofnodion hynod ddiddorol i lawer o bobl, gan gynnwys ymchwilwyr i hanes milwrol a theuluol a haneswyr lleol. Mwy am yr archif>
Yn ogystal â'r Archif Gatrodol (sef cofnodion y Gatrawd ei hun), mae Amgueddfa'r Castell a'r Gatrawd yn gartref i lawer o gasgliadau archif eraill llai sydd wedi'u rhoi gan sefydliadau eraill ac unigolion. Mae mwy o wybodaeth amdanynt yma.